5. Roedd yn gwisgo helmed bres, arfwisg bres oedd yn pwyso bron chwe deg cilogram,
6. a phadiau pres ar ei goesau. Roedd cleddyf cam pres yn hongian dros ei ysgwyddau.
7. Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a'i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario ei darian o'i flaen.
8. Dyma fe'n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam ydych chi'n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi'n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi!
9. Os gall e fy lladd i, byddwn ni'n gaethweision i chi. Ond os gwna i ei ladd e yna chi fydd yn gaethweision i ni.”
10. Gwaeddodd eto, “Dw i'n eich herio chi heddiw, fyddin Israel. Dewiswch ddyn i ymladd yn fy erbyn i!”
11. Pan glywodd Saul a dynion Israel hyn, dyma nhw'n dechrau panicio, ac roedd ganddyn nhw ofn go iawn.
12. Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a pan oedd Saul yn frenin roedd e'n ddyn mewn oed a parch mawr iddo.
13. Roedd ei dri mab hynaf – Eliab, Abinadab a Shamma – wedi dilyn Saul i'r rhyfel.
14. Dafydd oedd mab ifancaf Jesse. Tra roedd y tri hynaf ym myddin Saul
15. byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem.
16. (Yn y cyfamser roedd y Philistiad yn dod allan i herio byddin Israel bob dydd, fore a nos. Gwnaeth hyn am bedwar deg diwrnod.)
17. Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Brysia draw i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid o rawn wedi ei grasu a deg torth iddyn nhw.
18. A cymer y deg darn yma o gaws i'w roi i'r capten. Ffeindia allan sut mae pethau'n mynd, a tyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw'n iawn.”