1 Samuel 17:23-33 beibl.net 2015 (BNET)

23. Tra roedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A clywodd Dafydd e.

24. Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio'n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn.

25. Roedden nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi wedi gweld y dyn yma sy'n dod i fyny? Mae'n gwneud hyn i wawdio bobl Israel. Mae'r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy'n ei ladd e. Bydd e'n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.”

26. Dyma Dafydd yn holi'r dynion o'i gwmpas, “Be fydd y wobr i'r dyn sy'n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio'r sarhau yma ar Israel? Pwy mae'r pagan yma o Philistiad yn meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?”

27. A dyma'r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd y wobr i bwy bynnag sy'n ei ladd e,” medden nhw.

28. Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas. Roedd wedi gwylltio gyda Dafydd ac meddai, “Pam ddest ti i lawr yma? Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.”

29. “Be dw i wedi ei wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.”

30. A dyma fe'n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o'r blaen.

31. Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Saul. A dyma Dafydd yn cael ei alw ato.

32. Dyma Dafydd yn dweud wrth Saul, “Does dim rhaid i neb ddigalonni, syr. Dw i'n barod i ymladd y Philistiad yna!”

33. “Alli di ddim ymladd yn ei erbyn e!” meddai Saul. “Dim ond bachgen wyt ti! Mae e wedi bod yn filwr ar hyd ei oes!”

1 Samuel 17