1 Samuel 17:17-31 beibl.net 2015 (BNET)

17. Un diwrnod dyma Jesse yn dweud wrth Dafydd, “Brysia draw i'r gwersyll at dy frodyr. Dos â sachaid o rawn wedi ei grasu a deg torth iddyn nhw.

18. A cymer y deg darn yma o gaws i'w roi i'r capten. Ffeindia allan sut mae pethau'n mynd, a tyrd â rhywbeth yn ôl i brofi eu bod nhw'n iawn.”

19. Roedden nhw gyda Saul a byddin Israel yn Nyffryn Ela yn ymladd y Philistiaid.

20. Cododd Dafydd ben bore a gadael y defaid yng ngofal rhywun arall. Llwythodd ei bac a mynd fel roedd Jesse wedi dweud wrtho. Dyma fe'n cyrraedd y gwersyll wrth i'r fyddin fynd allan i'w rhengoedd yn barod i ymladd, ac yn gweiddi “I'r gâd!”

21. Roedd yr Israeliaid a'r Philistiaid yn wynebu ei gilydd yn eu rhengoedd.

22. Dyma Dafydd yn gadael y pac oedd ganddo gyda'r swyddog cyfarpar, a rhedeg i ganol y rhengoedd at ei frodyr i holi eu hanes.

23. Tra roedd e'n siarad â nhw, dyma Goliath (y Philistiad o Gath) yn dod allan o rengoedd y Philistiaid, a dechrau bygwth yn ôl ei arfer. A clywodd Dafydd e.

24. Pan welodd milwyr Israel e, dyma nhw i gyd yn cilio'n ôl; roedd ganddyn nhw ei ofn go iawn.

25. Roedden nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Ydych chi wedi gweld y dyn yma sy'n dod i fyny? Mae'n gwneud hyn i wawdio bobl Israel. Mae'r brenin wedi addo arian mawr i bwy bynnag sy'n ei ladd e. Bydd e'n cael priodi merch y brenin, a fydd teulu ei dad byth yn gorfod talu trethi eto.”

26. Dyma Dafydd yn holi'r dynion o'i gwmpas, “Be fydd y wobr i'r dyn sy'n lladd y Philistiad yma, ac yn stopio'r sarhau yma ar Israel? Pwy mae'r pagan yma o Philistiad yn meddwl ydy e, yn herio byddin y Duw byw?”

27. A dyma'r milwyr yn dweud wrtho beth oedd wedi cael ei addo. “Dyna fydd y wobr i bwy bynnag sy'n ei ladd e,” medden nhw.

28. Dyma Eliab, ei frawd hynaf, yn clywed Dafydd yn siarad â'r dynion o'i gwmpas. Roedd wedi gwylltio gyda Dafydd ac meddai, “Pam ddest ti i lawr yma? Pwy sy'n gofalu am yr ychydig ddefaid yna yn yr anialwch i ti? Dw i'n dy nabod di y cenau drwg! Dim ond wedi dod i lawr i weld y frwydr wyt ti.”

29. “Be dw i wedi ei wneud nawr?” meddai Dafydd. “Dim ond holi oeddwn i.”

30. A dyma fe'n troi oddi wrtho a gofyn yr un peth eto i rywun arall. A chafodd yr un ateb ag o'r blaen.

31. Roedd yna rai wedi sylwi ar y diddordeb roedd Dafydd yn ei ddangos, a dyma nhw'n mynd i ddweud wrth Saul. A dyma Dafydd yn cael ei alw ato.

1 Samuel 17