1 Samuel 17:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Casglodd y Philistiaid eu byddin at ei gilydd yn Socho yn Jwda, i fynd i ryfel. Roedden nhw wedi codi gwersyll yn Effes-dammîm rhwng Socho ac Aseca.

2. Roedd Saul a byddin Israel hefyd wedi codi gwersyll yn Nyffryn Ela, ac yn sefyll yn eu rhengoedd yn barod i ymladd yn erbyn y Philistiaid.

3. Roedd y Philistiaid ar ben un bryn a'r Israeliaid ar ben bryn arall, gyda'r dyffryn rhyngddyn nhw.

4. Daeth milwr o'r enw Goliath o dref Gath allan o wersyll y Philistiaid i herio'r Israeliaid. Roedd e dros naw troedfedd o daldra!

5. Roedd yn gwisgo helmed bres, arfwisg bres oedd yn pwyso bron chwe deg cilogram,

6. a phadiau pres ar ei goesau. Roedd cleddyf cam pres yn hongian dros ei ysgwyddau.

7. Roedd coes ei waywffon fel trawst ffrâm gwehydd, a'i phig haearn yn pwyso tua saith cilogram. Ac roedd gwas yn cario ei darian o'i flaen.

8. Dyma fe'n sefyll a gweiddi ar fyddin Israel, “Pam ydych chi'n paratoi i ryfela? Philistiad ydw i, a dych chi'n weision i Saul. Dewiswch un dyn i ddod i lawr yma i ymladd hefo fi!

9. Os gall e fy lladd i, byddwn ni'n gaethweision i chi. Ond os gwna i ei ladd e yna chi fydd yn gaethweision i ni.”

10. Gwaeddodd eto, “Dw i'n eich herio chi heddiw, fyddin Israel. Dewiswch ddyn i ymladd yn fy erbyn i!”

11. Pan glywodd Saul a dynion Israel hyn, dyma nhw'n dechrau panicio, ac roedd ganddyn nhw ofn go iawn.

12. Roedd Dafydd yn fab i Jesse o deulu Effratha, oedd yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Roedd gan Jesse wyth mab, a pan oedd Saul yn frenin roedd e'n ddyn mewn oed a parch mawr iddo.

13. Roedd ei dri mab hynaf – Eliab, Abinadab a Shamma – wedi dilyn Saul i'r rhyfel.

14. Dafydd oedd mab ifancaf Jesse. Tra roedd y tri hynaf ym myddin Saul

15. byddai Dafydd yn mynd yn ôl a blaen rhwng gwasanaethu Saul ac edrych ar ôl defaid ei dad yn Bethlehem.

1 Samuel 17