8. Yna dyma Jesse yn galw Abinadab, i Samuel gael ei weld e. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis chwaith.”
9. Felly dyma Jesse yn dod â Shamma ato. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis chwaith.”
10. Dyma Jesse'n dod â saith o'i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o'r rhain.”
11. Dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?”“Na,” meddai Jesse, “Mae'r lleiaf ar ôl. Mae e'n gofalu am y defaid.”“Anfon rhywun i'w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.”
12. Felly dyma Jesse'n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd – bachgen golygus iawn. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â'r olew.”
13. Felly dyma Samuel yn tywallt yr olew ar ben Dafydd o flaen ei frodyr i gyd. Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD yn rymus ar Dafydd o'r diwrnod hwnnw ymlaen.Wedyn dyma Samuel yn mynd yn ôl adre i Rama.
14. Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD wedi gadael Saul. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon ysbryd drwg i'w boeni.
15. Dyma ei swyddogion yn dweud wrtho, “Mae'n amlwg fod Duw wedi anfon ysbryd drwg i dy boeni di.
16. Syr, beth am i ni, dy weision, fynd i chwilio am rywun sy'n canu'r delyn yn dda? Wedyn, pan fydd Duw yn anfon yr ysbryd drwg arnat ti, bydd e'n canu'r delyn ac yn gwneud i ti deimlo'n well.”
17. Felly dyma Saul yn ateb, “Iawn, ewch i ffeindio rhywun sy'n canu'r delyn yn dda, a dewch ag e yma.”
18. Dyma un o'r dynion ifanc yn dweud, “Dw i'n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy'n dda ar y delyn. Mae e'n filwr dewr, yn siaradwr da, mae'n fachgen golygus ac mae'r ARGLWYDD gydag e.”
19. Dyma Saul yn anfon neges at Jesse, “Anfon dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda'r defaid.”
20. Felly dyma Jesse'n llwytho asyn gyda bara, potel groen yn llawn o win, a gafr ifanc, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul.