1 Samuel 15:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Samuel yn dweud wrth Saul, “Fi ydy'r un wnaeth yr ARGLWYDD ei anfon i dy eneinio di yn frenin ar Israel. Felly, gwranda nawr ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.

2. Dyma mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn ei ddweud: ‘Dw i am gosbi'r Amaleciaid am be wnaethon nhw i bobl Israel, sef gwrthod gadael iddyn nhw basio pan oedden nhw ar ei ffordd o'r Aifft.

3. Felly dos i daro'r Amaleciaid. Dinistriwch nhw'n llwyr, a llosgi eu heiddo. Peidiwch teimlo trueni drostyn nhw. Lladdwch nhw i gyd – yn ddynion a merched, plant a babis bach, gwartheg a defaid, camelod ag asynnod.’”

4. Felly dyma Saul yn galw'r fyddin at ei gilydd a'i cyfri nhw yn Telaïm. Daeth 200,000 o filwyr traed a 10,000 o ddynion o Jwda.

5. Aeth Saul a'i fyddin i gyfeiriad y trefi lle roedd yr Amaleciaid yn byw, a chuddio yn y sychnant yn barod i ymosod.

1 Samuel 15