1 Samuel 13:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. Does neb yn siŵr beth oedd oed Saul pan ddaeth yn frenin. Ar ôl bod yn frenin ar Israel am ddwy flynedd

2. dyma fe'n dewis tair mil o ddynion Israel i fod yn ei fyddin. Roedd dwy fil o'r dynion i aros gydag e yn Michmas a bryniau Bethel, a'r mil arall i fynd gyda Jonathan i Gibea ar dir llwyth Benjamin. Anfonodd bawb arall yn ôl adre.

3. Clywodd y Philistiaid fod Jonathan wedi ymosod ar eu garsiwn milwrol yn Geba. Felly dyma Saul yn anfon negeswyr i bob rhan o'r wlad i chwythu'r corn hwrdd a galw pobl i ryfel, a dweud, “Chi Hebreaid, gwrandwch yn astud!”

4. Yna clywodd pawb yn Israel fod Saul wedi taro garsiwn milwrol y Philistiaid, a bod y Philistiaid yn ffieiddio pobl Israel. Felly dyma'r bobl yn cael eu galw i ymuno â byddin Saul yn Gilgal.

1 Samuel 13