8. Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda.
9. Dyma nhw'n dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh, “Dwedwch wrth bobl Jabesh yn Gilead, ‘Erbyn canol dydd fory, byddwch wedi'ch achub.’” Pan aeth y negeswyr a dweud hyn wrth bobl Jabesh, roedden nhw wrth eu boddau.
10. Felly dyma nhw'n dweud wrth Nachash, “Yfory byddwn ni'n dod allan atoch chi, a cewch wneud fel y mynnoch hefo ni.”