1 Samuel 11:12-15 beibl.net 2015 (BNET)

12. Yna dyma'r bobl yn gofyn i Samuel, “Ble mae'r rhai oedd yn dweud, ‘Fydd Saul yn frenin arnon ni?’ Dewch â nhw yma. Maen nhw'n haeddu marw!”

13. Ond dyma Saul yn dweud, “Does neb i gael ei ladd heddiw. Mae'n ddiwrnod pan mae'r ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!”

14. “Dewch,” meddai Samuel, “gadewch i ni fynd i Gilgal, a sefydlu'r frenhiniaeth yno eto.”

15. Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i Gilgal a gwneud Saul yn frenin yno o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd Saul a pobl Israel i gyd yn dathlu yno.

1 Samuel 11