1 Samuel 11:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead. Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, “Gwna gytundeb â ni, a down ni'n weision i ti.”

2. Dyma Nachash yn ateb, “Gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda i yn codi cywilydd ar Israel gyfan.”

3. Dyma arweinwyr Jabesh yn dweud wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod i'n hachub ni, byddwn ni'n ildio i ti.”

4. Pan ddaeth y negeswyr i Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd dyma'r bobl i gyd yn dechrau crïo'n uchel.

5. Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre o'r caeau gyda'i ychen. “Be sy'n bod?” meddai. “Pam mae pawb yn crïo?” A dyma nhw'n dweud am neges pobl Jabesh wrtho.

6. Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arno'n rymus. Roedd wedi gwylltio'n lân.

7. Dyma fe'n lladd pâr o ychen a'u torri nhw'n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda'r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i fod i gyhoeddi: “Pwy bynnag sy'n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i'w ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw'n dod allan fel un dyn.

1 Samuel 11