10. Pan gyrhaeddodd Saul a'i was Gibea dyma griw o broffwydi yn dod i'w cyfarfod nhw. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Saul, a dechreuodd broffwydo gyda nhw.
11. Pan welodd pawb oedd yn ei nabod Saul yn proffwydo gyda'r proffwydi, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Be yn y byd sydd wedi digwydd i fab Cish? Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”
12. A dyma un dyn lleol yn ateb “Ydy e o bwys pwy ydy eu tad nhw?” A dyna lle dechreuodd y dywediad, “Ydy Saul yn un o'r proffwydi?”
13. Ar ôl gorffen proffwydo, dyma Saul yn mynd at yr allor leol.
14. Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?”“I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu eu ffeindio nhw aethon ni at Samuel.”
15. “A be ddwedodd Samuel wrthoch chi?” meddai'r ewythr.
16. “Dweud wrthon ni eu bod nhw wedi ffeindio'r asennod,” meddai Saul. Ond ddwedodd e ddim gair am beth oedd Samuel wedi ei ddweud wrtho am fod yn frenin.
17. Dyma Samuel yn galw'r bobl at ei gilydd i Mitspa i gyfarfod yr ARGLWYDD.
18. Dwedodd wrth bobl Israel, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Des i ag Israel allan o'r Aifft. Gwnes i'ch achub chi o afael yr Eifftiaid a'r gwledydd eraill i gyd oedd yn eich gormesu chi.
19. Ond erbyn hyn dych chi wedi gwrthod eich Duw sydd wedi'ch achub chi o bob drwg a helynt. Dych chi wedi dweud, “Na! Rho frenin i ni.”’“Felly nawr,” meddai Samuel, “dw i eisiau i chi sefyll o flaen yr ARGLWYDD bob yn llwyth a theulu.”
20. A dyma fe'n dod â pob un o lwythau Israel o flaen Duw yn eu tro. Dyma lwyth Benjamin yn cael ei ddewis.
21. Wedyn daeth â llwyth Benjamin ymlaen fesul clan. A dyma glan Matri yn cael ei ddewis. Ac yn y diwedd dyma Saul fab Cish yn cael ei ddewis.Roedden nhw'n chwilio amdano ond yn methu dod o hyd iddo.
22. Felly dyma nhw'n gofyn i'r ARGLWYDD eto, “Ydy'r dyn yna wedi dod yma?” Ac ateb Duw oedd, “Dacw fe, yn cuddio yng nghanol yr offer.”
23. Dyma nhw'n rhedeg yno i'w nôl a'i osod i sefyll yn y canol. Roedd e'n dalach na phawb arall o'i gwmpas.
24. A dyma Samuel yn dweud wrth y bobl, “Ydych chi'n gweld y dyn mae'r ARGLWYDD wedi ei ddewis i chi? Does neb tebyg iddo.” A dyma'r bobl i gyd yn gweiddi, “Hir oes i'r brenin!”
25. Wedyn dyma Samuel yn esbonio i'r bobl yr holl drefn o gael brenin, a'i ysgrifennu mewn sgrôl. Cafodd honno ei chadw o flaen yr ARGLWYDD. Wedyn dyma Samuel yn anfon y bobl i gyd adre.
26. Aeth Saul adre hefyd, i Gibea. A dyma ddynion dewr oedd wedi eu cyffwrdd gan Dduw yn mynd gydag e.
27. Ond roedd yna rai eraill, rhyw ddynion da i ddim, yn dweud, “Sut all hwn ein hachub ni?” Roedden nhw'n ei wfftio, a ddaethon nhw ddim ag anrheg iddo. Ond ddwedodd Saul ddim byd am y peth.