1 Samuel 10:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Samuel yn cymryd potel o olew olewydd a'i dywallt ar ben Saul. Yna ei gyfarch e gyda chusan, a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn dy eneinio di i arwain ei bobl e, Israel. Byddi'n arwain ei bobl ac yn eu hachub nhw o afael y gelynion sydd o'u cwmpas. A dyma beth fydd yn digwydd i ddangos i ti mai'r ARGLWYDD sydd wedi dy ddewis di i arwain ei bobl:

2. Wrth i ti adael heddiw byddi'n cyfarfod dau ddyn wrth ymyl bedd Rachel, yn Seltsach ar ffin Benjamin. Byddan nhw'n dweud: ‘Mae'r asennod wyt ti wedi bod yn chwilio amdanyn nhw wedi dod i'r golwg. Dydy dy dad ddim yn poeni amdanyn nhw bellach. Poeni amdanoch chi mae e, a gofyn, “Be ddylwn i ei wneud am fy mab?”’

3. “Byddi'n mynd yn dy flaen wedyn, a dod at dderwen Tabor, lle byddi'n cyfarfod tri dyn ar eu ffordd i addoli Duw yn Bethel – un yn cario tair gafr ifanc, un arall yn cario tair torth o fara, a'r olaf yn cario potel groen o win.

4. Byddan nhw'n dy gyfarch ac yn rhoi dwy dorth i ti. Cymer nhw ganddyn nhw.

5. “Wedyn, dos ymlaen i Gibeath Elohîm lle mae garsiwn milwrol gan y Philistiaid. Wrth i ti gyrraedd y dre, byddi'n cyfarfod criw o broffwydi yn dod i lawr o'r allor leol ar y bryn. Bydd nabl, drwm, pib a thelyn yn mynd o'u blaenau nhw, a hwythau'n dilyn ac yn proffwydo.

6. A bydd Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod yn rymus arnat tithau, a byddi'n proffwydo gyda nhw. Byddi fel person gwahanol.

7. “Pan fydd yr arwyddion yma i gyd wedi digwydd gwna beth bynnag sydd angen ei wneud, achos mae Duw gyda ti.

8. “Wedyn dos i Gilgal. Bydda i'n dod yno atat ti i gyflwyno offrymau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Aros amdana i am wythnos, a bydda i'n dod i ddangos i ti be i'w wneud nesaf.”

9. Wrth i Saul droi i ffwrdd i adael Samuel dyma Duw yn newid ei agwedd yn llwyr. A dyma'r arwyddion i gyd yn digwydd y diwrnod hwnnw.

10. Pan gyrhaeddodd Saul a'i was Gibea dyma griw o broffwydi yn dod i'w cyfarfod nhw. A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Saul, a dechreuodd broffwydo gyda nhw.

11. Pan welodd pawb oedd yn ei nabod Saul yn proffwydo gyda'r proffwydi, dyma nhw'n dweud wrth ei gilydd, “Be yn y byd sydd wedi digwydd i fab Cish? Ydy Saul hefyd yn un o'r proffwydi?”

12. A dyma un dyn lleol yn ateb “Ydy e o bwys pwy ydy eu tad nhw?” A dyna lle dechreuodd y dywediad, “Ydy Saul yn un o'r proffwydi?”

13. Ar ôl gorffen proffwydo, dyma Saul yn mynd at yr allor leol.

14. Gofynnodd ei ewythr iddo fe a'i was, “Ble dych chi wedi bod?”“I chwilio am yr asennod,” meddai Saul. “Ac am ein bod yn methu eu ffeindio nhw aethon ni at Samuel.”

15. “A be ddwedodd Samuel wrthoch chi?” meddai'r ewythr.

1 Samuel 10