1 Samuel 1:9-25 beibl.net 2015 (BNET)

9. Un tro, ar ôl iddyn nhw orffen bwyta ac yfed yn Seilo, dyma Hanna'n codi a mynd i weddïo. (Roedd Eli'r offeiriad yn eistedd ar gadair wrth ddrws y deml ar y pryd.)

10. Roedd hi'n torri ei chalon ac yn beichio crïo wrth weddïo ar yr ARGLWYDD.

11. A dyma hi'n addo i Dduw, “ARGLWYDD holl-bwerus, plîs wnei di gymryd sylw ohono i, a peidio troi oddi wrtho i? Os gwnei di roi mab i mi, gwna i ei roi i'r ARGLWYDD am ei oes, a fydd e byth yn torri ei wallt.”

12. Buodd Hanna'n gweddïo'n hir ar yr ARGLWYDD, ac roedd Eli wedi sylwi arni.

13. Am ei bod hi'n gweddïo'n dawel, roedd e'n gweld ei gwefusau'n symud ond heb glywed dim, felly roedd e'n meddwl ei bod hi wedi meddwi.

14. A dwedodd wrthi, “Pam wyt ti'n meddwi fel yma? Rho'r gorau iddi! Sobra!”

15. Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD.

16. Paid meddwl amdana i fel gwraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i'n teimlo.”

17. “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.”

18. A dyma hi'n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach.

19. Bore drannoeth, dyma nhw'n codi ac addoli Duw cyn mynd adre'n ôl i Rama.Dyma Elcana'n cysgu gyda'i wraig, a cofiodd yr ARGLWYDD ei gweddi.

20. Daeth Hanna'n feichiog, a cyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cael mab. Galwodd e'n Samuel, am ei bod wedi gofyn i'r ARGLWYDD amdano.

21. Daeth yn amser i Elcana a'i deulu fynd i Seilo unwaith eto, i aberthu a cyflawni addewid wnaeth e i Dduw.

22. Ond aeth Hanna ddim y tro yma. “Dw i ddim am fynd nes bydd y bachgen yn gallu gwneud heb y fron,” meddai wrth ei gŵr. “Gwna i fynd ag e wedyn a'i gyflwyno i'r ARGLWYDD, a bydd e'n aros yno o hynny ymlaen.”

23. Meddai Elcana, “Gwna di beth ti'n feddwl sydd orau. Aros nes bydd y bachgen ddim angen y fron, ond boed i Dduw dy gadw at dy addewid.” Felly arhosodd Hanna adre a magu'r plentyn nes ei fod ddim angen y fron.

24. Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â'r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tarw teirblwydd oed, llond sach o flawd, a photel groen o win gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e.

25. Wedi iddyn nhw ladd y tarw, dyma nhw'n mynd â'r bachgen at Eli.

1 Samuel 1