1 Samuel 1:15-28 beibl.net 2015 (BNET)

15. Atebodd Hanna, “Na wir, syr! Dw i mor anhapus. Dw i ddim wedi bod yn yfed o gwbl. Dw i wedi bod yn bwrw fy mol o flaen yr ARGLWYDD.

16. Paid meddwl amdana i fel gwraig ddrwg, da i ddim. Dw i wedi bod yn dweud wrtho mor boenus a thrist dw i'n teimlo.”

17. “Dos adre yn dawel dy feddwl,” meddai Eli, “a boed i Dduw Israel roi i ti beth wyt ti eisiau.”

18. A dyma hi'n ateb, “Ti mor garedig, syr.” Felly aeth i ffwrdd a dechrau bwyta eto. Roedd yn edrych yn llawer hapusach.

19. Bore drannoeth, dyma nhw'n codi ac addoli Duw cyn mynd adre'n ôl i Rama.Dyma Elcana'n cysgu gyda'i wraig, a cofiodd yr ARGLWYDD ei gweddi.

20. Daeth Hanna'n feichiog, a cyn diwedd y flwyddyn roedd wedi cael mab. Galwodd e'n Samuel, am ei bod wedi gofyn i'r ARGLWYDD amdano.

21. Daeth yn amser i Elcana a'i deulu fynd i Seilo unwaith eto, i aberthu a cyflawni addewid wnaeth e i Dduw.

22. Ond aeth Hanna ddim y tro yma. “Dw i ddim am fynd nes bydd y bachgen yn gallu gwneud heb y fron,” meddai wrth ei gŵr. “Gwna i fynd ag e wedyn a'i gyflwyno i'r ARGLWYDD, a bydd e'n aros yno o hynny ymlaen.”

23. Meddai Elcana, “Gwna di beth ti'n feddwl sydd orau. Aros nes bydd y bachgen ddim angen y fron, ond boed i Dduw dy gadw at dy addewid.” Felly arhosodd Hanna adre a magu'r plentyn nes ei fod ddim angen y fron.

24. Pan oedd yn ddigon hen, aeth Hanna â'r bachgen i fyny i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo. Aeth â tarw teirblwydd oed, llond sach o flawd, a photel groen o win gyda hi. Aeth â fe i gysegr yr ARGLWYDD yn Seilo, er mai plentyn ifanc oedd e.

25. Wedi iddyn nhw ladd y tarw, dyma nhw'n mynd â'r bachgen at Eli.

26. Dyma Hanna yn cyfarch Eli a dweud, “Syr, wir i chi, fi ydy'r wraig oedd yn sefyll yma wrth eich ymyl chi yn gweddïo ar Dduw.

27. Am y bachgen yma roeddwn i'n gweddïo, ac mae Duw wedi ateb fy ngweddi!

28. Felly dw i'n ei roi e i'r ARGLWYDD. Dw i'n ei roi e i'r ARGLWYDD am weddill ei fywyd.”Yna dyma nhw'n addoli'r ARGLWYDD yno.

1 Samuel 1