2. Yn lle byw gweddill eich bywydau yn ceisio bodloni eich chwantau dynol, gwnewch beth mae Duw eisiau.
3. Dych chi wedi treulio digon o amser yn y gorffennol yn gwneud beth mae'r paganiaid yn mwynhau ei wneud – byw'n anfoesol yn rhywiol a gadael i'r chwantau gael penrhyddid, meddwi a slotian yfed mewn partïon gwyllt, a phopeth ffiaidd arall sy'n digwydd wrth addoli eilun-dduwiau.
4. Maen nhw bellach yn meddwl ei bod yn rhyfedd iawn eich bod chi ddim yn dal i ymuno gyda nhw nac yn cael eich cario gyda'r llif i'r math yna o fywyd ofer. Felly maen nhw'n eich rhegi a'ch enllibio chi.
5. Ond bydd rhaid iddyn nhw wynebu Duw, yr un sy'n mynd i farnu pawb sy'n fyw a phawb sydd wedi marw.
6. (Dyna pam y cafodd y newyddion da ei gyhoeddi i'r rhai sydd wedi marw. Er eu bod nhw wedi eu cosbi yn y bywyd hwn ac wedi marw fel pawb arall, byddan nhw'n cael byw gyda Duw drwy'r Ysbryd!)
7. Bydd popeth yn dod i ben yn fuan. Felly cadwch eich meddwl yn glir ac yn effro wrth weddïo.
8. Yn bwysicach na dim, daliwch ati i ddangos cariad dwfn at eich gilydd, am fod cariad yn maddau lot fawr o bechodau.
9. Agorwch eich cartrefi i'ch gilydd – bod yn groesawgar, a peidio cwyno.
10. Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu'i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni trwy wasanaethu pobl eraill.