1 Pedr 1:11-25 beibl.net 2015 (BNET)

11. Roedd yr Ysbryd oedd gyda nhw wedi dweud wrthyn nhw ymlaen llaw am beth fyddai'r Meseia yn ei ddioddef ac am yr holl bethau ffantastig fyddai'n digwydd wedyn. Ond beth yn union oedd Ysbryd y Meseia'n cyfeirio ato? Pryd fyddai'r cwbl yn digwydd?

12. Esboniwyd iddyn nhw fod y pethau hynny ddim yn mynd i ddigwydd yn eu cyfnod nhw, ond yn y dyfodol, yn ein cyfnod ni. A bellach mae'r cwbl wedi ei rannu gyda chi gan y rhai sydd wedi dod â'r newyddion da i chi, gyda nerth yr Ysbryd Glân gafodd ei anfon o'r nefoedd. Mae'r angylion hyd yn oed yn ysu am gael deall y pethau hyn yn well.

13. Felly, byddwch yn barod a gwyliwch sut ydych chi'n ymddwyn. Rhowch eich gobaith yn llwyr yn y rhodd sy'n dod i chi ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod i'r golwg eto.

14. Byddwch yn ufudd i Dduw am eich bod yn blant iddo. Stopiwch ddilyn y chwantau oedd i'w gweld ynoch chi cyn i chi ddod i wybod y gwir.

15. Na, rhaid i chi fod yn wahanol. Rhaid i'ch ymddygiad chi fod yn berffaith lân, yn union fel mae Duw sydd wedi'ch galw chi ato'i hun yn berffaith lân.

16. Dyna mae'r ysgrifau sanctaidd yn ei dweud: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.”

17. Mae Duw yn barnu pawb yn hollol deg ar sail beth maen nhw wedi ei wneud, Felly os dych chi'n galw Duw yn dad i chi, dylech roi iddo'r parch mae'n ei haeddu a byw fel pobl sydd oddi cartref yn y byd yma.

18. Talodd Duw bris uchel i'ch gollwng chi'n rhydd o wagedd y ffordd o fyw gafodd ei phasio i lawr i chi gan eich hynafiaid. A dim pethau sy'n darfod fel arian ac aur gafodd eu defnyddio i dalu'r pris hwnnw,

19. ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr – gwaed y Meseia, oen perffaith Duw oedd heb unrhyw nam arno.

20. Roedd Duw wedi ei apwyntio cyn i'r byd gael ei greu, ond nawr yn y cyfnod olaf hwn daeth i'r byd a chael ei weld gan bobl. Gwnaeth hyn er eich mwyn chi.

21. Trwy beth wnaeth e, dych chi wedi dod i gredu yn Nuw. Am fod Duw wedi ei godi yn ôl yn fyw a'i anrhydeddu, dych chi'n gallu trystio Duw yn llwyr, a rhoi'ch gobaith ynddo.

22. Am eich bod chi bellach yn dilyn y gwir, dych chi wedi cael eich gwneud yn lân ac yn dangos gofal go iawn am eich gilydd. Felly daliwch ati i garu eich gilydd, a hynny o waelod calon.

23. Wedi'r cwbl, dych chi wedi cael eich geni o'r newydd! Mae'r bywyd dych chi wedi ei dderbyn gan eich rhieni yn rhywbeth sy'n darfod, ond mae'r bywyd newydd yn para am byth. Mae neges Duw wedi ei phlannu ynoch chi, ac mae hi'n neges sy'n rhoi bywyd ac sy'n aros am byth.

24. Achos, “Mae pobl feidrol fel glaswellt, a'u holl harddwch fel blodyn gwyllt – mae'r glaswellt yn gwywo a'r blodyn yn syrthio,

25. ond mae neges yr Arglwydd yn aros am byth.” A'r neges yna ydy'r newyddion da gafodd ei bregethu i chi.

1 Pedr 1