1 Ioan 1:3-10 beibl.net 2015 (BNET)

3. Ydyn, dŷn ni'n sôn am rywbeth dŷn ni wedi ei weld a'i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi'r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda'i Fab, Iesu y Meseia.

4. Dŷn ni'n ysgrifennu hyn er mwyn i ni i gyd fod yn wirioneddol hapus.

5. Dyma'r neges mae e wedi ei rhoi i ni, a dyma ni nawr yn ei rhannu gyda chi: Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo.

6. Felly, os ydyn ni'n honni fod gynnon ni berthynas gyda Duw ac eto'n dal i fyw fel petaen ni yn y tywyllwch, mae'n amlwg ein bod ni'n dweud celwydd. Dŷn ni ddim yn byw yn ffyddlon i'r gwir.

7. Ond os ydyn ni'n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni'n perthyn i'n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod.

8. Os ydyn ni'n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni'n twyllo'n hunain a dydy'r gwir ddim ynon ni.

9. Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e'n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e'n cadw ei air ac yn gwneud beth sy'n iawn.

10. Os ydyn ni'n honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn ni'n gwneud Duw yn gelwyddog, ac mae'n amlwg bod ei neges e'n cael dim lle yn ein bywydau ni.

1 Ioan 1