1 Ioan 1:1-3 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yr un sydd wedi bodoli o'r dechrau cyntaf – dŷn ni wedi ei glywed e a'i weld e. Do, dŷn ni wedi edrych arno â'n llygaid ein hunain, a'i gyffwrdd â'n dwylo! Gair y bywyd!

2. Daeth y bywyd ei hun i'r golwg, a dŷn ni wedi ei weld e. Gallwn dystio iddo, a dyma dŷn ni'n ei gyhoeddi i chi – y bywyd tragwyddol oedd gyda'r Tad ac sydd wedi dangos ei hun i ni.

3. Ydyn, dŷn ni'n sôn am rywbeth dŷn ni wedi ei weld a'i glywed. Dŷn ni eisiau i chithau brofi'r wefr gyda ni o rannu yn y berthynas yma gyda Duw y Tad, a gyda'i Fab, Iesu y Meseia.

1 Ioan 1