1 Cronicl 9:15-24 beibl.net 2015 (BNET)

15. Bacbacâr; Cheresh; Galal; Mataneia fab Micha, mab Sichri, mab Asaff;

16. Obadeia fab Shemaia, mab Galal, mab Iedwthwn; a Berecheia fab Asa, mab Elcana, oedd wedi byw yn y pentrefi yn ardal Netoffa.

17. Gofalwyr y giatiau:Shalwm, Accwf, Talmon, Achiman, a'u perthnasau. (Shalwm oedd y pennaeth.)

18. Cyn hyn, nhw oedd y gwylwyr yng ngwersylloedd y Lefiaid i'r dwyrain o Giât y Brenin.

19. Shalwm fab Core, mab Ebiasaff, mab Cora, a'i berthnasau ar ochr ei dad (sef y Corahiaid), oedd yn gyfrifol am warchod y fynedfa i'r cysegr. Eu hynafiaid nhw oedd wedi bod yn gyfrifol am warchod y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.

20. Phineas fab Eleasar, oedd yn arolygu'r gwaith ers talwm, ac roedd yr ARGLWYDD wedi bod gydag e.

21. A Sechareia fab Meshelemeia oedd yn gwarchod y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

22. Roedd yna ddau gant un deg dau ohonyn nhw i gyd wedi cael eu dewis i warchod y fynedfa. Roedd eu henwau wedi eu rhestru yng nghofrestrau teuluol eu pentrefi. Y brenin Dafydd a Samuel y proffwyd oedd wedi eu penodi i'w swyddi.

23. Felly nhw a'u disgynyddion oedd i ofalu am warchod y fynedfa i gysegr yr ARGLWYDD (sef y Tabernacl).

24. Roedden nhw i'w warchod ar y pedair ochr: i'r dwyrain, gorllewin, gogledd a de.

1 Cronicl 9