1 Cronicl 7:20-24 beibl.net 2015 (BNET)

20. Disgynyddion Effraim:Shwtelach, ei fab Bered, wedyn i lawr y cenedlaethau drwy Tachath, Elada, Tachath,

21. Safad, i Shwtelach.(Cafodd Eser ac Elead, dau fab arall Effraim, eu lladd gan rai o ddisgynyddion Gath oedd yn byw yn y wlad, pan aethon nhw i lawr i ddwyn eu gwartheg.

22. Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma ei frodyr yn dod i'w gysuro.)

23. Yna dyma fe'n cysgu gyda'i wraig a dyma hi'n beichiogi ac yn cael bachgen arall. Galwodd Effraim e yn Bereia, am fod pethau wedi bod yn ddrwg ar ei deulu.

24. (Merch Bereia oedd Sheëra, wnaeth adeiladu Beth-choron Isaf ac Uchaf, a hefyd Wssen-sheëra.)

1 Cronicl 7