1 Cronicl 7:18-23 beibl.net 2015 (BNET)

18. Ei chwaer Hamolecheth oedd mam Ish-hod, Abieser a Machla.

19. Meibion Shemida oedd Acheian, Sichem, Lichi, ac Aniam.

20. Disgynyddion Effraim:Shwtelach, ei fab Bered, wedyn i lawr y cenedlaethau drwy Tachath, Elada, Tachath,

21. Safad, i Shwtelach.(Cafodd Eser ac Elead, dau fab arall Effraim, eu lladd gan rai o ddisgynyddion Gath oedd yn byw yn y wlad, pan aethon nhw i lawr i ddwyn eu gwartheg.

22. Bu Effraim, eu tad, yn galaru amdanyn nhw am amser maith, a dyma ei frodyr yn dod i'w gysuro.)

23. Yna dyma fe'n cysgu gyda'i wraig a dyma hi'n beichiogi ac yn cael bachgen arall. Galwodd Effraim e yn Bereia, am fod pethau wedi bod yn ddrwg ar ei deulu.

1 Cronicl 7