63. Cafodd claniau Merari un deg dwy o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Reuben, Gad a Sabulon.
64. Rhoddodd pobl Israel y trefi yma, a'r tir pori o'u cwmpas, i lwyth Lefi.
65. Roedd y trefi yma, o diriogaeth Jwda, Simeon a Benjamin, wedi eu henwi ymlaen llaw.
66. Cafodd rhai o deuluoedd disgynyddion Cohath dir o fewn tiriogaeth llwyth Effraim.
67. Sichem, ym mryniau Effraim, Geser,
68. Jocmeam, a Beth-choron,
69. Aialon, a Gath-rimmon a'r tir pori o gwmpas pob un.
70. O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma weddill disgynyddion Cohath yn cael Aner a Bileam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw.