1 Cronicl 6:57-63 beibl.net 2015 (BNET)

57. Cafodd disgynyddion Aaron y trefi lloches canlynol hefyd: Hebron, Libna, Iattir, Eshtemoa,

58. Cholon, Debir,

59. Ashan, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un.

60. Yna o fewn tiriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n cael Geba, Alemeth, Anathoth, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.Felly cafodd eu claniau nhw un deg tair o drefi i gyd.

61. A cafodd gweddill disgynyddion Cohath ddeg pentref oedd o fewn i diriogaeth hanner llwyth Manasse.

62. Cafodd claniau Gershom un deg tair o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali a Manasse

63. Cafodd claniau Merari un deg dwy o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Reuben, Gad a Sabulon.

1 Cronicl 6