30. Shimea, Haggia, yna Asaia.
31. Dyma'r rhai oedd Dafydd wedi eu penodi i arwain y gerddoriaeth yn y cysegr, ar ôl i'r arch gael ei gosod yno.
32. Buon nhw'n arwain y gerddoriaeth o flaen cysegr Pabell Presenoldeb Duw nes i Solomon adeiladu'r deml yn Jerwsalem. Roedden nhw ar ddyletswydd yn y drefn oedd wedi ei gosod.
33. Dyma'r rhai oedd yn y swydd yma, nhw a'u meibion:Disgynyddion Cohath:Heman y cerddor, mab Joel oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Samuel,
34. Elcana, Ierocham, Eliel, Toach,
35. Swff, Elcana, Machat, Amasai,
36. Elcana, Joel, Asareia, Seffaneia,
37. Tachath, Assir, Ebiasaff, Cora,
38. Its'har, Cohath, i Lefi.
39. Yna Asaff, un arall o lwyth Lefi, oedd yn ei helpu. Asaff oedd mab Berecheia, a'i linach yn estyn yn ôl trwy Shimea,
40. Michael, Baaseia, Malcîa,
41. Ethni, Serach, Adaia,
42. Ethan, Simma, Shimei,
43. Iachath, a Gershom, i Lefi.
44. Yna, yn eu helpu nhw, roedd eraill o lwyth Lefi oedd yn ddisgynyddion i Merari.Eu harweinydd nhw oedd Ethan fab Cishi, oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Afdi, Malŵch,
45. Chashafeia, Amaseia, Chilceia,
46. Amtsi, Bani, Shemer,
47. Machli, Mwshi, a Merari, i Lefi.
48. Roedd gweddill y Lefiaid yn gyfrifol am bopeth arall roedd angen ei wneud yn y tabernacl, sef cysegr Duw.