25. Disgynyddion Elcana:Amasai ac Achimoth,
26. wedyn ei fab Elcana, a'i fab e, Soffai, ac i lawr drwy Nachath,
27. Eliab, Ierocham, a'i fab e Elcana.
28. Meibion Samuel:Joel, y mab hynaf, ac Abeia, yr ail.
29. Disgynyddion Merari:Machli, ei fab Libni, wedyn ei fab e Shimei ac i lawr y cenedlaethau drwy Wssa,
30. Shimea, Haggia, yna Asaia.
31. Dyma'r rhai oedd Dafydd wedi eu penodi i arwain y gerddoriaeth yn y cysegr, ar ôl i'r arch gael ei gosod yno.
32. Buon nhw'n arwain y gerddoriaeth o flaen cysegr Pabell Presenoldeb Duw nes i Solomon adeiladu'r deml yn Jerwsalem. Roedden nhw ar ddyletswydd yn y drefn oedd wedi ei gosod.
33. Dyma'r rhai oedd yn y swydd yma, nhw a'u meibion:Disgynyddion Cohath:Heman y cerddor, mab Joel oedd a'i linach yn estyn yn ôl trwy Samuel,
34. Elcana, Ierocham, Eliel, Toach,
35. Swff, Elcana, Machat, Amasai,
36. Elcana, Joel, Asareia, Seffaneia,
37. Tachath, Assir, Ebiasaff, Cora,
38. Its'har, Cohath, i Lefi.