23. Roedden nhw'n gwneud crochenwaith, yn byw yn Netaim a Gedera, ac yn gweithio i'r brenin.
24. Disgynyddion Simeon:Nemwel, Iamin, Iarîf, Serach, a Saul,
25. wedyn Shalwm ei fab e, Mifsam ei fab yntau, a Mishma mab hwnnw.
26. Disgynyddion Mishma:Chamwel ei fab, Saccwr ei ŵyr a Shimei ei or-ŵyr.
27. Roedd gan Shimei un deg chwech mab a chwe merch. Ond doedd gan ei frodyr ddim llawer o feibion, felly wnaeth llwyth Simeon ddim tyfu cymaint â llwyth Jwda.