5. A dyma'r meibion gafodd e yno:Shamma, Shofaf, Nathan, a Solomon – mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.
6. Naw mab arall Dafydd oedd:Ifchar, Elishwa, Eliffelet,
7. Noga, Neffeg, Jaffia,
8. Elishama, Eliada, ac Eliffelet.
9. Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid. Tamar oedd eu chwaer nhw.
10. Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat,
11. Jehoram, Ahaseia, Joas,
12. Amaseia, Asareia, Jotham,
13. Ahas, Heseceia, Manasse,
14. Amon, a Joseia
15. a'i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm.
16. Jehoiacim oedd tad Jehoiachin a Sedeceia.
17. Meibion Jehoiachin gafodd ei gaethgludo:Shealtiel,
18. Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.
19. Meibion Pedaia:Serwbabel a Shimei.Meibion Serwbabel:Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw.
20. Y pump arall oedd Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.