1. Dyma'r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron:Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
2. Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
3. Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.
4. Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner.Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.