1 Cronicl 29:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r Brenin Dafydd yn dweud wrth y gynulleidfa: “Llanc ifanc dibrofiad ydy fy mab Solomon, yr un mae Duw wedi ei ddewis i wneud hyn. Mae'r dasg o'i flaen yn un fawr, achos nid adeilad i ddyn fydd hwn, ond i'r ARGLWYDD Dduw.

2. Dw i wedi gwneud fy ngorau glas i ddarparu popeth sydd ei angen i wneud y gwaith – aur, arian, pres, haearn a coed, heb sôn am lot fawr o feini gwerthfawr, fel onics (a morter glas i'w gosod nhw a'r meini eraill), gemau gwerthfawr o bob math, a marmor.

3. Ond dw i hefyd am gyfrannu fy holl drysorau personol tuag at y gwaith, am fod teml Dduw mor bwysig yn fy ngolwg i. Bydd hyn yn ychwanegol at bopeth arall dw i wedi ei ddarparu ar gyfer y gwaith.

4. Mae'n cynnwys mwy na 100 tunnell o aur Offir a dros 250 tunnell o arian coeth, i orchuddio waliau'r adeilad,

5. a'r gwaith arall sydd i'w wneud gan y crefftwyr. Felly pwy arall sydd am gyfrannu heddiw tuag at adeiladu teml Dduw?”

6. Dyma benaethiaid y teuluoedd, arweinwyr y llwythau, capteiniaid yr unedau o fil ac o gant, a'r swyddogion oedd yn arolygu gwaith y brenin yn cyfrannu at y gwaith.

7. Dyma gafodd ei roi ganddyn nhw: dros 180 tunnell o aur, 10,000 o ddarnau aur, 375 tunnell o arian, a 3,750 tunnell o haearn.

8. Dyma pawb yn cyfrannu eu gemau gwerthfawr i drysordy teml yrARGLWYDD hefyd, oedd dan ofal Iechiel o deulu Gershon.

9. Roedd pawb wrth eu boddau fod cymaint wedi ei gasglu, a bod pawb wedi bod mor barod i roi. Roedd y Brenin Dafydd hefyd wrth ei fodd.

10. Dyma Dafydd yn moli'r ARGLWYDD o flaen y gynulleidfa gyfan: “O ARGLWYDD, Duw ein tad Israel, rwyt ti'n haeddu dy fendithio am byth bythoedd!

11. O ARGLWYDD, ti ydy'r Duw mawr, cryf, godidog, ac enwog sy'n teyrnasu dros bopeth yn y nefoedd a'r ddaear! Ti ydy'r un sy'n ben ar y cwbl i gyd!

12. Oddi wrthot ti mae pob cyfoeth ac anrhydedd yn dod, achos ti sy'n rheoli'r cwbl i gyd. Gen ti mae pob cryfder a nerth, a ti sy'n rhoi nerth i bobl, ac yn eu gwneud nhw'n enwog.

1 Cronicl 29