9. “A tithau, Solomon fy mab, gwna'n siŵr dy fod yn nabod Duw dy dad. Rho dy hun yn llwyr i'w addoli a'i wasanaethu yn frwd. Mae'r ARGLWYDD yn gwybod beth sy'n mynd trwy feddwl pawb, ac yn gwybod pam maen nhw'n gwneud pethau. Os byddi di'n ceisio'r ARGLWYDD go iawn, bydd e'n gadael i ti ddod o hyd iddo. Ond os byddi di'n troi cefn arno, bydd e'n dy wrthod di am byth.
10. Mae'r ARGLWYDD wedi dy ddewis di i adeiladu teml yn gysegr iddo. Felly bydd yn gryf a bwrw iddi!”
11. Dyma Dafydd yn rhoi'r cynlluniau ar gyfer y deml i'w fab Solomon – cynlluniau'r cyntedd, yr adeiladau, y trysordai, y lloriau uchaf, yr ystafelloedd mewnol, a'r cysegr lle roedd caead yr Arch.
12. Rhoddodd gynlluniau popeth oedd e wedi ei ddychmygu am iard y deml, yr ystafelloedd o'i chwmpas, stordai teml Dduw a'r stordai lle roedd y rhoddion wedi eu cysegru i Dduw yn cael eu cadw.
13. Rhoddodd y cyfarwyddiadau ar gyfer y gwahanol grwpiau o offeiriaid a Lefiaid iddo, y gwahanol gyfrifoldebau a'r offer oedd i gael eu defnyddio wrth iddyn nhw wasanaethu yn nheml yr ARGLWYDD.
14. Rhoddodd iddo restr o faint yn union o aur ac arian oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y gwahanol eitemau a llestri fyddai'n cael eu defnyddio yn yr addoliad –
15. y menora aur a'r lampau oedd arni, y rhai arian a'r lampau oedd arnyn nhw (roedd pob manylyn yn cael ei bwyso);
16. yr aur ar gyfer y byrddau lle roedd y bara'n cael ei osod yn bentwr (faint o aur oedd i'w ddefnyddio i wneud pob un, a faint o arian oedd i'w ddefnyddio i wneud y byrddau arian);
17. a'r aur pur oedd i gael ei ddefnyddio i wneud y ffyrc, y dysglau a'r jygiau, y powlenni bach aur a'r powlenni bach arian (union bwysau pob un),
18. a'r aur wedi ei buro ar gyfer gwneud allor yr arogldarth.Rhoddodd iddo'r cynllun ar gyfer sedd y ceriwbiaid aur oedd yn lledu eu hadenydd i gysgodi Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD.
19. “Dw i wedi ysgrifennu'r cwbl i lawr yn fanwl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi fy arwain i,”
20. meddai Dafydd wrth Solomon. “Bydd yn gryf a dewr! Bwrw iddi! Paid bod ag ofn na panicio! Mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda ti. Fydd e ddim yn dy adael di nac yn troi cefn arnat ti nes bydd y gwaith yma i gyd ar deml yr ARGLWYDD wedi ei orffen.
21. Dyma sut mae'r offeiriaid a'r Lefiaid wedi eu rhannu'n grwpiau i wneud holl waith teml Dduw. Mae'r gweithwyr a'r crefftwyr yn barod i dy helpu i wneud y cwbl. Mae'r swyddogion a'r bobl i gyd yn barod i wneud beth bynnag wyt ti'n ddweud.”