1 Cronicl 27:4-25 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mis 2 – Dodai, un o ddisgynyddion Achoach (gyda Micloth yn gapten) a'i adran o 24,000.

5. Mis 3 – Y trydydd arweinydd oedd Benaia, mab Jehoiada'r offeiriad, a'i adran o 24,000.

6. (Dyma'r Benaia oedd yn arwain y tri deg milwr dewr. Ei fab Amisafad oedd capten yr adran.)

7. Mis 4 – Asahel, brawd Joab, (Sebadeia ei fab wnaeth ei olynu) a'i adran o 24,000.

8. Mis 5 – Shamhwth o glan Israch a'i adran o 24,000.

9. Mis 6 – Ira fab Iccesh o Tecoa, a'i adran o 24,000.

10. Mis 7 – Chelets o Pelon, un o ddisgynyddion Effraim, a'i adran o 24,000.

11. Mis 8 – Sibechai o Chwsha, oedd yn perthyn i glan Serach, a'i adran o 24,000.

12. Mis 9 – Abieser o Anathoth, un o ddisgynyddion Benjamin, a'i adran o 24,000.

13. Mis 10 – Maharai o Netoffa, oedd yn perthyn i glan Serach, a'i adran o 24,000.

14. Mis 11 – Benaia o Pirathon, un o ddisgynyddion Effraim, a'i adran o 24,000.

15. Mis 12 – Cheldai o Netoffa, un o ddisgynyddion Othniel, a'i adran o 24,000.

23. Wnaeth Dafydd ddim cyfrif y bechgyn dan ugain oed. Roedd yr ARGLWYDD wedi addo gwneud pobl Israel mor niferus a'r sêr yn yr awyr.

24. Roedd Joab fab Serwia wedi dechrau cyfrif y dynion, ond wnaeth e ddim gorffen. Roedd Duw yn ddig gydag Israel am y peth, felly wnaeth y nifer ddim cael ei gofnodi yn y sgrôl, Hanes y Brenin Dafydd.

25. Asmafeth fab Adiel oedd yn gyfrifol am stordai'r brenin;Jonathan fab Wseia yn gyfrifol am y stordai brenhinol yn y trefi, pentrefi a'r caerau yn Israel;

1 Cronicl 27