1 Cronicl 26:8-20 beibl.net 2015 (BNET)

8. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Obed-Edom. Roedd parch mawr atyn nhw, eu meibion a'u perthnasau. Roedden nhw i gyd yn ddynion abl iawn i wneud eu gwaith. Roedd chwe deg dau ohonyn nhw yn perthyn i Obed-Edom.

9. Roedd gan Meshelemeia feibion a perthnasau uchel eu parch – un deg wyth i gyd.

10. Roedd gan Chosa, un o ddisgynyddion Merari, feibion: Shimri oedd y mab cyntaf (er nad fe oedd yr hynaf – ei dad oedd wedi rhoi'r safle cyntaf iddo).

11. Yna Chilceia yn ail, Tefaleia yn drydydd, a Sechareia yn bedwerydd. Nifer meibion a perthnasau Chosa oedd un deg tri.

12. Roedd y grwpiau yma o ofalwyr wedi eu henwi ar ôl penaethiaid y teuluoedd, ac fel eu perthnasau roedd ganddyn nhw gyfrifoldebau penodol yn y deml.

13. Dyma'r coelbren yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa giât oedden nhw'n gyfrifol amdani. Doedd oedran ddim yn cael ei ystyried.

14. A dyma sut y cawson nhw eu dewis:Aeth giât y dwyrain i ofal Shelemeia;giât y gogledd i'w fab Sechareia (dyn oedd yn arbennig o ddoeth);

15. giât y de i Obed-edom (ei feibion e oedd yn gyfrifol am y stordai);

16. yna giât y gorllewin (a giât Shalecheth oedd ar y ffordd uchaf) i Shwpîm a Chosa.Roedd eu dyletswyddau'n cael eu rhannu'n gyfartal.

17. Bob dydd roedd chwech Lefiad ar ddyletswydd i'r dwyrain, pedwar i'r gogledd a pedwar i'r de. Roedd dau ar ddyletswydd gyda'i gilydd yn y stordai.

18. Wedyn wrth yr iard i'r gorllewin roedd pedwar ar ddyletswydd ar y ffordd a dau yn yr iard.

19. (Y rhain oedd y grwpiau o ofalwyr oedd yn ddisgynyddion i Cora a Merari.)

20. Rhai o'r Lefiaid oedd hefyd yn gyfrifol am stordai teml Dduw a'r stordai lle roedd y rhoddion yn cael eu cadw.

1 Cronicl 26