1 Cronicl 22:5-14 beibl.net 2015 (BNET)

5. A dyma Dafydd yn esbonio, “Mae Solomon, fy mab, yn ifanc ac yn ddibrofiad. Mae'n rhaid i'r deml fydd yn cael ei hadeiladu i'r ARGLWYDD fod mor wych, bydd yn enwog ac yn cael ei hedmygu drwy'r byd i gyd. Dyna pam dw i'n paratoi ar ei chyfer.” Felly roedd Dafydd wedi gwneud paratoadau mawr cyn iddo farw.

6. Yna dyma Dafydd yn galw ei fab, Solomon, a rhoi gorchymyn iddo adeiladu teml i'r ARGLWYDD, Duw Israel.

7. Dwedodd wrtho, “Fy mab, roeddwn i wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD fy Nuw.

8. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, ‘Rwyt ti wedi lladd gormod o bobl ac wedi ymladd llawer o frwydrau. Felly gei di ddim adeiladu teml i mi, o achos yr holl waed sydd wedi ei dywallt.

9. Ond gwranda, byddi'n cael mab, a bydd e'n ddyn heddychlon. Bydda i'n gwneud i'r holl elynion o'i gwmpas roi llonydd iddo. Ei enw fydd Solomon, a bydd Israel yn cael heddwch a thawelwch yn y cyfnod pan fydd e'n frenin.

10. Bydd e'n adeiladu'r deml i mi. Bydd e'n fab i mi a bydda i'n dad iddo fe. Bydda i'n gwneud i'w linach deyrnasu ar Israel am byth.’

11. “Nawr, fy mab, boed i'r ARGLWYDD fod gyda ti! Boed i ti lwyddo, ac adeiladu teml i'r ARGLWYDD dy Dduw, fel dwedodd e.

12. A boed i'r ARGLWYDD roi doethineb a dealltwriaeth i ti, pan fyddi di'n gyfrifol am Israel, i ti fod yn ufudd i gyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw.

13. Byddi'n siŵr o lwyddo os byddi'n cadw'n ofalus y rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel. Bydd yn gryf ac yn ddewr; paid bod ag ofn a panicio.

14. Edrych, er mod i'n siomedig, dw i wedi casglu beth sydd ei angen i adeiladu teml yr ARGLWYDD: bron 4,000 o dunelli o aur, 40,000 o dunelli o arian, a cymaint o efydd a haearn does dim posib ei bwyso! Coed a cherrig hefyd. A byddi di'n casglu mwy eto.

1 Cronicl 22