11. “Nawr, fy mab, boed i'r ARGLWYDD fod gyda ti! Boed i ti lwyddo, ac adeiladu teml i'r ARGLWYDD dy Dduw, fel dwedodd e.
12. A boed i'r ARGLWYDD roi doethineb a dealltwriaeth i ti, pan fyddi di'n gyfrifol am Israel, i ti fod yn ufudd i gyfraith yr ARGLWYDD dy Dduw.
13. Byddi'n siŵr o lwyddo os byddi'n cadw'n ofalus y rheolau a'r canllawiau roddodd yr ARGLWYDD i Moses ar gyfer pobl Israel. Bydd yn gryf ac yn ddewr; paid bod ag ofn a panicio.
14. Edrych, er mod i'n siomedig, dw i wedi casglu beth sydd ei angen i adeiladu teml yr ARGLWYDD: bron 4,000 o dunelli o aur, 40,000 o dunelli o arian, a cymaint o efydd a haearn does dim posib ei bwyso! Coed a cherrig hefyd. A byddi di'n casglu mwy eto.
15. Mae gen ti lawer iawn o weithwyr hefyd, rhai i dorri cerrig, eraill yn seiri maen a seiri coed, a crefftwyr o bob math,
16. i weithio gydag aur, arian, efydd a haearn. Felly bwrw iddi! A boed i'r ARGLWYDD fod gyda ti!”
17. Yna dyma Dafydd yn rhoi gorchymyn i swyddogion Israel i helpu ei fab Solomon.
18. “Mae'r ARGLWYDD, eich Duw, gyda chi! Mae wedi rhoi heddwch i'r wlad. Mae wedi rhoi'r gwledydd o'n cwmpas i mi, ac maen nhw i gyd bellach dan awdurdod yr ARGLWYDD a'i bobl.
19. Nawr, rhowch eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD eich Duw. Ewch ati i adeiladu teml i'r ARGLWYDD Dduw, fel y gallwch ddod ag Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD ar holl lestri sanctaidd i'r deml fydd wedi ei hadeiladu i'w anrhydeddu”.