1 Cronicl 21:17-26 beibl.net 2015 (BNET)

17. A dyma Dafydd yn gweddïo ar Dduw, “Onid fi wnaeth benderfynu cyfri'r milwyr? Fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg ofnadwy yma! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. O ARGLWYDD Dduw, cosba fi a'm teulu, a symud y pla oddi wrth dy bobl.”

18. Felly dyma angel yr ARGLWYDD yn anfon Gad i ddweud wrth Dafydd am fynd i godi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Ornan y Jebwsiad.

19. Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn i Gad ei ddweud ar ei ran.

20. Roedd Ornan wrthi'n dyrnu ŷd pan drodd a gweld yr angel, a dyma fe a'i bedwar mab yn mynd i guddio.

21. Yna dyma Ornan yn gweld Dafydd yn dod ato, a dyma fe'n dod allan o'r llawr dyrnu ac yn ymgrymu o flaen Dafydd â'i wyneb ar lawr.

22. A dyma Dafydd yn dweud wrth Ornan, “Dw i eisiau i ti werthu'r llawr dyrnu i mi, er mwyn i mi godi allor i'r ARGLWYDD – gwna i dalu'r pris llawn i ti – i stopio'r pla yma ladd y bobl.”

23. Dyma Ornan yn dweud wrth Dafydd, “Syr, cymer e, a gwneud beth bynnag wyt ti eisiau. Cymer yr ychen i'w llosgi'n aberth, a defnyddia'r sled dyrnu'n goed tân, a'r gwenith yn offrwm o rawn. Cymer y cwbl.”

24. Ond dyma'r brenin Dafydd yn ateb Ornan, “Na, mae'n rhaid i mi dalu'r pris llawn i ti. Dw i ddim yn mynd i gyflwyno dy eiddo di yn offrwm i'r ARGLWYDD, neu aberthau i'w llosgi sydd wedi costio dim byd i mi.”

25. Felly dyma Dafydd yn prynu'r lle gan Ornan am chwe chan darn aur.

26. Wedyn adeiladodd allor i'r ARGLWYDD yno, a chyflwyno arni aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. A dyma'r ARGLWYDD yn ymateb drwy anfon tân i lawr o'r awyr a llosgi y aberth ar yr allor.

1 Cronicl 21