41. Shalwm oedd tad Iecameia,a Iecameia oedd tad Elishama.
42. Meibion Caleb, brawd Ierachmeël:Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron.
43. Meibion Hebron:Cora, Tappŵach, Recem a Shema.
44. Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam.Recem oedd tad Shammai.
45. Mab Shammai oedd Maon, oedd yn dad i Beth-tswr.
46. Dyma Effa, partner Caleb, yn geni Haran, Motsa a Gases. Charan oedd tad Gases.
47. Meibion Iahdai:Regem, Jotham, Geshan, Pelet, Effa a Shaäff.
48. Dyma Maacha, partner Caleb, yn geni Shefer a Tirchana.
49. Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa.
50. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb.Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb:Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearim),
51. Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader).