4. Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo – sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd.
5. Meibion Perets:Hesron a Chamŵl.
6. Meibion Serach:Simri, Ethan, Heman, Calcol a Dara – pump i gyd.
7. Mab Carmi:Achar, yr un achosodd helynt i Israel drwy ddwyn beth oedd wedi ei gysegru i Dduw.
8. Mab Ethan:Asareia.
9. Meibion Hesron:Ierachmeël, Ram a Caleb.
10. Ram oedd tad Aminadab,Aminadab oedd tad Nachshon, pennaeth llwyth Jwda.
11. Nachshon oedd tad Salma,a Salma oedd tad Boas.
12. Boas oedd tad Obed,ac Obed oedd tad Jesse.
13. Jesse oedd tad Eliab (ei fab hynaf), yna Abinadab, Shamma,
14. Nethanel, Radai,
15. Otsem a Dafydd.
16. A'i chwiorydd nhw oedd Serwia ac Abigail.Roedd gan Serwia dri mab – Abishai, Joab ac Asahel.
17. Cafodd Abigail fab o'r enw Amasa, a'r tad oedd Jether yr Ismaeliad.
18. Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Jeser, Shofaf ac Ardon.
19. Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a cafodd hi fab arall iddo, sef Hur.
20. Hur oedd tad Wri,ac Wri oedd tad Betsalel.
21. Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi ei phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf.
22. Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead.