39. Asareia oedd tad Chelets,Chelets oedd tad Elasa,
40. Elasa oedd tad Sismai,Sismai oedd tad Shalwm,
41. Shalwm oedd tad Iecameia,a Iecameia oedd tad Elishama.
42. Meibion Caleb, brawd Ierachmeël:Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron.
43. Meibion Hebron:Cora, Tappŵach, Recem a Shema.
44. Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam.Recem oedd tad Shammai.
45. Mab Shammai oedd Maon, oedd yn dad i Beth-tswr.