1 Cronicl 2:27-39 beibl.net 2015 (BNET)

27. Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël):Maas, Iamin ac Ecer.

28. Meibion Onam:Shammai a Iada.Meibion Shammai:Nadab ac Abishŵr.

29. Gwraig Abishŵr oedd Abihail, gafodd ddau blentyn iddo, sef Achban a Molid.

30. Meibion Nadab:Seled ac Appaïm. (Buodd Seled farw heb gael plant).

31. Mab Appaïm:Ishi.Mab Ishi:Sheshan.Mab Sheshan:Achlai.

32. Meibion Iada (brawd Shammai):Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant).

33. Meibion Jonathan:Peleth a Sasa.Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ierachmeël.

34. Doedd gan Sheshan ddim meibion, dim ond merched. Roedd ganddo was o'r enw Iarcha oedd yn Eifftiwr.

35. A dyma Sheshan yn rhoi un o'i ferched yn wraig i Iarcha, a dyma hi'n cael mab iddo, sef Attai.

36. Attai oedd tad Nathan,Nathan oedd tad Safad,

37. Safad oedd tad Efflal,Efflal oedd tad Obed,

38. Obed oedd tad Jehw,Jehw oedd tad Asareia,

39. Asareia oedd tad Chelets,Chelets oedd tad Elasa,

1 Cronicl 2