23. (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.
24. Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa.
25. Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron:Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa.
26. Ac roedd gan Ierachmeël wraig arall o'r enw Atara, a hi oedd mam Onam.
27. Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël):Maas, Iamin ac Ecer.
28. Meibion Onam:Shammai a Iada.Meibion Shammai:Nadab ac Abishŵr.
29. Gwraig Abishŵr oedd Abihail, gafodd ddau blentyn iddo, sef Achban a Molid.
30. Meibion Nadab:Seled ac Appaïm. (Buodd Seled farw heb gael plant).
31. Mab Appaïm:Ishi.Mab Ishi:Sheshan.Mab Sheshan:Achlai.
32. Meibion Iada (brawd Shammai):Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant).