1 Cronicl 2:18-25 beibl.net 2015 (BNET)

18. Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Jeser, Shofaf ac Ardon.

19. Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a cafodd hi fab arall iddo, sef Hur.

20. Hur oedd tad Wri,ac Wri oedd tad Betsalel.

21. Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi ei phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf.

22. Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead.

23. (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.

24. Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa.

25. Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron:Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa.

1 Cronicl 2