1. Dyma feibion Israel:Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
2. Dan, Joseff, Benjamin, Nafftali, Gad, ac Asher.
3. Meibion Jwda:Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD, felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd e.
4. Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo – sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd.