1 Cronicl 18:6-17 beibl.net 2015 (BNET)

6. Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daethon nhw hefyd o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd.

7. Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem.

8. A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Tifchath a Cwn, trefi Hadadeser (Defnyddiodd Solomon y pres i wneud y basn mawr oedd yn cael ei alw “Y Môr,” a hefyd y pileri ac offer arall o bres.).

9. Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro Hadadeser, brenin Soba, a'i fyddin i gyd,

10. dyma fe'n anfon ei fab Hadoram ato i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Ac aeth â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e.

11. A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r ARGLWYDD. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef: Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid.

12. Roedd Abishai fab Serwia wedi lladd un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen.

13. A dyma fe'n gosod garsiynau yn Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr ARGLWYDD yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd.

14. Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg.

15. Joab (mab Serwia) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.

16. Sadoc fab Achitwf ac Abimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Shafsha oedd ei ysgrifennydd gwladol.

17. Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn brif swyddogion hefyd.

1 Cronicl 18