1. Ar ôl hyn dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid, ac yn dwyn rheolaeth Gath a'r pentrefi o'i chwmpas oddi arnyn nhw.
2. Wedyn dyma fe'n concro Moab. A daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo.
3. Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser, brenin talaith Soba wrth Chamath. Roedd e ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod.
4. Ond dyma Dafydd yn dal mil o'i gerbydau rhyfel, saith mil o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff.