Wrth i Arch yr ARGLWYDD gyrraedd Dinas Dafydd, roedd Michal merch Saul yn edrych allan drwy'r ffenest. Pan welodd hi'r brenin Dafydd yn neidio a dawnsio, doedd hi'n teimlo dim byd ond dirmyg tuag ato.