1 Cronicl 15:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma Dafydd yn codi nifer o adeiladau yn Ninas Dafydd. A dyma fe'n paratoi lle i Arch Duw, a gosod pabell yn barod iddi.

2. Yna dyma Dafydd yn dweud, “Dim ond y Lefiaid sydd i gario Arch Duw, neb arall. Nhw mae'r ARGLWYDD wedi eu dewis i gario'r Arch ac i'w wasanaethu am byth.”

3. Dyma Dafydd yn galw pobl Israel i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem, i symud Arch yr ARGLWYDD i'r lle'r roedd wedi ei baratoi ar ei chyfer.

4. Dyma fe'n galw disgynyddion Aaron a'r Lefiaid at ei gilydd hefyd:

5. Disgynyddion Cohath: Wriel, yr arweinydd, a 120 o'i berthnasau.

6. Disgynyddion Merari: Asaia, yr arweinydd, a 220 o'i berthnasau.

7. Disgynyddion Gershom: Joel, yr arweinydd, a 130 o'i berthnasau.

8. Disgynyddion Elitsaffan: Shemaia, yr arweinydd, a 200 o'i berthnasau.

9. Disgynyddion Hebron: Eliel, yr arweinydd, ac 80 o'i berthnasau.

10. Disgynyddion Wssiel: Aminadab, yr arweinydd, a 112 o'i berthnasau.

11. Yna dyma Dafydd yn galw'r offeiriaid, Sadoc ac Abiathar, a'r Lefiaid, Wriel, Asaia, Joel, Shemaia, Eliel ac Aminadab.

12. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Chi ydy arweinwyr y Lefiaid. Rhaid i chi a'ch perthnasau fynd trwy'r ddefod o buro eich hunain, i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'r lle dw i wedi ei baratoi iddi.

13. Roedd yr ARGLWYDD wedi'n cosbi ni y tro cyntaf am eich bod chi ddim gyda ni, a'n bod heb ofyn iddo am y ffordd iawn i'w symud.”

14. Felly dyma'r offeiriad a'r Lefiaid yn cysegru eu hunain i symud Arch yr ARGLWYDD, Duw Israel.

15. A dyma'r Lefiaid yn cario Arch Duw ar eu hysgwyddau gyda pholion, am fod Moses wedi dweud mai dyna oedd yr ARGLWYDD wedi ei orchymyn.

1 Cronicl 15