11. Felly aeth i Baal-peratsîm a'u trechu nhw yno. Dwedodd Dafydd, “Mae Duw wedi gwneud i mi dorri trwy fy ngelynion fel llifogydd o ddŵr.” A dyna pam wnaeth e alw'r lle hwnnw yn Baal-peratsîm.
12. Roedd y Philistiaid wedi gadael eu heilun-dduwiau ar ôl, a dyma Dafydd yn gorchymyn iddyn nhw gael eu llosgi.
13. Dyma'r Philistiaid yn ymosod eto ar y dyffryn.
14. A dyma Dafydd yn mynd i ofyn eto i Dduw beth i'w wneud. Y tro yma cafodd yr ateb, “Paid ymosod arnyn nhw o'r tu blaen. Dos rownd y tu ôl iddyn nhw ac ymosod o gyfeiriad y coed balsam.
15. Pan fyddi'n clywed sŵn cyffro yn y coed, ymosod ar unwaith. Dyna'r arwydd fod Duw yn mynd o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid.”
16. Felly dyma Dafydd yn gwneud fel roedd Duw wedi dweud wrtho, a dyma nhw'n taro byddin y Philistiaid yr holl ffordd o Gibeon i gyrion Geser.
17. Roedd Dafydd yn enwog ym mhobman; roedd yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r gwledydd i gyd ei ofni.