10. Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gydag Wssa, a dyma fe'n ei daro'n farw am estyn ei law a chyffwrdd yr Arch. Bu farw yn y fan a'r lle o flaen Duw.
11. Roedd Dafydd wedi digio fod yr ARGLWYDD wedi ymosod ar Wssa. Dyma fe'n galw'r lle yn Perets-Wssa (sef ‛y ffrwydriad yn erbyn Wssa‛). A dyna ydy enw'r lle hyd heddiw.
12. Roedd Duw wedi codi ofn ar Dafydd y diwrnod hwnnw. “Sut all Arch Duw ddod ata i?” meddai.
13. Felly wnaeth Dafydd ddim mynd â'r Arch adre i Ddinas Dafydd. Aeth â hi i dŷ Obed-edom, dyn o Gath.
14. Arhosodd Arch yr ARGLWYDD yn y tŷ gyda teulu Obed-edom am dri mis. A dyma'r ARGLWYDD yn bendithio teulu Obed-edom a popeth oedd ganddo.