1 Cronicl 12:22-28 beibl.net 2015 (BNET)

22. Yr adeg yna roedd dynion yn dod drosodd at Dafydd bob dydd, nes bod ei fyddin wedi tyfu'n fyddin enfawr.

23. Dyma gofnod o'r milwyr a'u harweinwyr wnaeth ymuno gyda Dafydd yn Hebron, i'w wneud yn frenin yn lle Saul (fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud):

24. O lwyth Jwda – 6,800 o filwyr arfog yn cario tarianau a gwaywffyn.

25. O lwyth Simeon – 7,100 o filwyr dewr.

26. O lwyth Lefi – 4,600.

27. Daeth Jehoiada (arweinydd disgynyddion Aaron) a 3,700 o ddynion,

28. a Sadoc, milwr ifanc, a 22 arweinydd o'i glan.

1 Cronicl 12