Dyma Dafydd yn mynd allan i'w cyfarfod nhw, a dweud, “Os ydych wedi dod yn heddychlon i fy helpu i, yna dw i'n barod i ymuno â chi. Ond os ydych chi wedi dod i fy mradychu i'm gelynion, yna bydd Duw ein hynafiaid yn gweld hynny ac yn eich cosbi. Dw i wedi gwneud dim o'i le i chi.”